Global Neighbours Cymru logo

Croeso i Gymdogion Byd-eang, ein cynllun achrediad cyffrous ar gyfer ysgolion. 

Mewn partneriaeth ac Addysg Yr Eglwys yng Nghymru, rydym eisiau annog dealltwriaeth ddyfnach o anghyfiawnder byd-eang ac arfogi dysgwyr ysgol ledled Cymru i fynd i’r afael â hyn a dod yn ddinasyddion moesegol, gwybodus o Gymru a’r byd.

Mae cynllun achredu Cymdogion Byd-eang yn bartneriaeth rhwng Cymorth Cristnogol a'r Eglwys yng Nghymru. Mae’r cynllun ar gael i bob ysgol gynradd yng Nghymru ac yn cynnwys tair lefel – Efydd, Arian ac Aur. Dyma ein ffordd o gefnogi, cydnabod a dathlu popeth mae ysgolion cynradd yng Nghymru yn ei wneud i ddarparu addysg byd-eang safonol.
I gyrraedd achrediad, bydd ysgolion yn arddangos sut maent yn ateb meini prawf mewn perthynas â: 

  • arweinyddiaeth, gweledigaeth a gwerthoedd
  • addysgu a dysgu
  • cydaddoli
  • datblygiad ysbrydol
  • cyfranogiad dysgwyr mewn dinasyddiaeth fyd-eang weithredol
  • ymgysylltu â'r gymuned 

Sut fydd ysgolion yn elwa o’r cynllun?

Mae Cymdogion Byd-eang yn darparu fframwaith ar gyfer meddwl am addysg dinasyddiaeth fyd-eang mewn ysgolion. Byddwch yn cael syniadau ar gyfer y cwricwlwm ac addoli ar y cyd i’ch galluogi i wau persbectif byd-eang i’ch darpariaeth gwricwlwm presennol, a fydd yn eich cefnogi chi i helpu pobl ifanc i ddod yn ddinasyddion byd-eang gweithredol. 
Mae’r cynllun yn anelu i gynyddu dealltwriaeth disgyblion o wraidd achosion tlodi ac anghyfiawnder, yn ogystal ag ymgysylltu a grymuso disgyblion fel gweithredwyr dros newid yn nhrawsnewidiad ein byd. 
Mae Cymdogion Byd-eang yn cefnogi’r Cwricwlwm i Gymru oherwydd ei fod yn:

  • cefnogi ysgolion i ganolbwyntio ar y pedwar diben, yn enwedig y datganiadau o’r hyn sy’n bwysig yn y dyniaethau
  • annog disgyblion i archwilio sut mae dylanwadau, penderfyniadau a gweithredoedd yn effeithio arnynt hwy, ar eraill ac ar gymdeithas ehangach, nawr ac yn y dyfodol ill dau, gan gefnogi rhai o’r datganiadau o’r hyn sy’n bwysig mewn iechyd a lles.

Gall Cymdogion Byd-eang hefyd wella darpariaeth Addysg Grefyddol mewn ysgolion trwy gynyddu gwybodaeth a dealltwriaeth disgyblion am pam a sut mae Cristnogion, ynghyd â phobl o grefyddau eraill a’r rhai nad oes ganddynt grefydd, eisiau newid y byd i un lle gall pawb fyw bywyd llawn, yn rhydd o dlodi. 
Trwy helpu disgyblion i hawlio eu llais fel dinasyddion byd-eang, bydd cymryd rhan yn y cynllun yn cefnogi ysgolion i ddatblygu ac arddangos eu gwaith yn helpu disgyblion i ddod yn ddinasyddion byd-eang gweithredol ac eiriolwyr dewr dros newid yn y byd, o’r lefel lleol i’r lefel byd-eang. 
Mae hefyd yn enwedig o ddefnyddiol i gwrdd â rhai o’r meini prawf mewn archwiliad Adran 50 o ysgolion Yr Eglwys yng Nghymru. 

Christian Aid Cymru logo

Church in Wales logo
Last modified: Wednesday, 27 August 2025, 3:18 PM