Mae Cymdogion Byd-eang yn gynllun achredu a chwrs hyfforddi sy’n cydnabod ac yn dathlu’r cyfan y mae ysgolion yn ei wneud i alluogi eu pobl ifanc i fod yn ddinasyddion byd-eang gweithredol. Nod y cynllun yw cynyddu dealltwriaeth disgyblion o achosion sylfaenol tlodi ac anghydraddoldeb, yn ogystal â’u hannog a’u grymuso fel asiantau newid wrth drawsnewid ein byd.

Mae Cymdogion Byd-eang wedi’i deilwra i ddiwallu anghenion ysgolion yng Nghymru, Lloegr a’r Alban. Datblygwyd y cynllun gan Cymorth Cristnogol mewn partneriaeth â’r Eglwys yng Nghymru, gan ystyried anghenion ac uchelgeisiau penodol ysgolion eglwys, ond mae ar agor i bob ysgol waeth beth fo’u cysylltiad crefyddol. Beth bynnag fo’ch cyd-destun, mae gwobr Cymdogion Byd-eang yn cynrychioli ymrwymiad eithriadol i addysg dinasyddiaeth fyd-eang.

A teacher talking to a group of children.

 

Darperir hyfforddiant arbenigol i arwain ysgolion drwy’r broses ac i’w cynorthwyo i gyrraedd achrediad. Nid yn unig y bydd cymryd rhan yn Cymdogion Byd-eang yn achredu’ch arferion presennol, ond bydd hefyd yn helpu i’w dyfnhau a’u datblygu. Mae’r rhaglen hyfforddi yn cynnwys pum gweminar gan ein tîm arbenigol, yn ogystal â dysgu ar eich pen eich hun. Mae’n ymdrin â phynciau gan gynnwys eiriolaeth ddewr, gwrth-hiliaeth ac didueddrwydd gwleidyddol.

A group of children, looking at a globe.

 

Gall ysgolion wneud cais am achrediad ar dri lefel: Efydd, Arian ac Aur.
Rhaid i ysgolion gasglu tystiolaeth ar gyfer ystod o feini prawf, ac mae hyn yn cael ei adolygu gan aseswr annibynnol.
Mae aseswyr yn chwilio am dystiolaeth mewn perthynas â phum maes:

  • Arweinyddiaeth, gweledigaeth a gwerthoedd
  • Addysgu a dysgu
  • Cydaddoli/myfyrio a datblygiad ysbrydol
  • Cyfranogiad mewn dinasyddiaeth fyd-eang weithredol
  • Ymgysylltu â’r gymuned

Eisiau gwybod mwy? Ewch i’n tudalen Cwestiynau Cyffredin.

Barod i gychwyn?

Cliciwich i gofrestru.

The Global Neighbours logo